Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf II.djvu/100

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hwyntau, gan lwyddo 'u bantur,
A glân barch o galon bur,
Er oesoedd a barasant
Addas wyl i Ddewi Sant,
Ac urddo 'r cenin gwyrddion
Yn goffhad o'r hoywgad hon,
A bod trwy 'n cynnefod ni
Diolch i Dduw a Dewi.
Dewi fu 'n noddwr diwael,
Chwi ydyw ein hoywlyw hael.
Mae'r hanes im', Ior hynod,
A fu, y geill eto fod.
Ar Dduw a chwi, rwydd eich iaith,
Yn gwbl y mae ein gobaith,
Pan gyrch Naf eich dewraf daid
I fynu nef i'w enaid—
I newid gwlad lygradwy
Am berffaith a milwaith mwy,
Iwch gael—pand yw hyfael hyn?
Rheoli pob rhyw elyn,
Gorchfygu talm o'r Almaen,
Taraw 'sper hyd dir Ysbaen,
Cynnal cad, yn anad neb,
Tandwng, yn ddigytundeb,
I ostwng rhyfawr ystawd
Llyw Frainc, fel nad allo ffrawd;
A difa, trwy nerth Dofydd,
Ei werin ffals a'r wan ffydd,
Dannod eu hanudonedd
Yn hir cyn y rhoddir hedd.
Yn ol dial ar alon,
Rhial hardd yw 'r rheol hon:
Gorsang y cyndyn gwarsyth,
Bydd wlydd wrth y llonydd llyth:
Milwaith am hyn y'ch molir,