Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf II.djvu/101

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A'ch galwad fydd TAD EICH TIR,
Gwr odiaeth, a gwaredydd
Yn rhoi holl Ewropa 'n rhydd;
Ac am glod pawb a'ch dodant
Yn rhychor i Sior y Sant.


DAU BENNILL[1] GWAWDODYN HIR,
I Gyfarch y Cymrodorion yn Llundain pan y cyflwynwyd
iddynt Annerch—Gywydd gan Ieuan Brydydd Hir.

Calan Mehefin, hin yn hoeni,
Cein trydar adar, hyar heli;
Cein rhawd cân wasgawd, trawd trwy erddi,
Cein tawel awel o wyrdd lwyni;
Ceinmycach, mwynach i mi—oedd acen
Cân awen lawen lên barddoni.

Canfum ddillynion gyson gerddi
Ceinfoes, cân eirioes, eres odli
Ceinfardd Deheudir Hir hoywfri,
Cywyddwawd moliant a gant ichwi;
Cyfarch hybarch heb eich coddi,—Frython,
Ceidr Gymrodorion dewrwych ynni.

  1. Cafwyd ymysg ysgrifau Ieuan Brydydd Hir, yn dwyn enw Goronwy. Rhoddwyd gan y Parch. D. Silvan Evans i'r Parch. Robert Jones, Rotherhithe. Tybia'r ddau mai gwaith Goronwy yw'r ddau bennill.