Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf II.djvu/116

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'i ysguboriau, ac yn y Plas yn Ngheidio y cai y rhan fwyaf o dylodion Lleyn eu lluniaeth, yn enwedig y trueiniaid llymion gan bysgotwyr Nefyn. Nid oedd yno ddim nag am yd, bid arian bid peidio. Talent os gallent pan lenwai Duw eu rhwydau; ac onide, fel y dywedai ynteu (mi a'i clywais yn aml), Doed a ddêl, rhaid i bob genau gael ymborth."


CYWYDD GWYL DEWI.
[At William Morris, Walton, Ebrill 1, 1754]

OCH fi! Wrth son am yr Awen, y mae hithau wedi marw hefyd; neu o'r lleiaf, ar ei marw-ysgafyn; ac ni bydd byw 'chwaith yn hir. Hi a'm cywilyddiodd dros fyth, gan fethu ohoni wneuthur cywydd nag awdl i'r Tywysog wyl Dewi diweddaf. Ond paham imi feio ar yr Awen? Oerfel yr hin, a noethni y'r wlad oerllom yma, oedd ar y bai. Dyna'r pethau a fagasant y peswch, a'r peswch oedd mam y pigyn, a'r ddau hynny rhyngddynt a'm lladdasant yn ddifeth, oni bai borth Duw a chyffyriau meddygon.



DAU FRAWD FARDD.
[At William Morris, Ion. 21, 1755]

TAN a'm twymo onid digrif o gorffyn yw Elisa Gowper. Mae'n sicr gennyf ped fuasai'r hychrug arnaf, yn lle'r cryd poeth, na buasai raid im wrth amgen meddyginiaeth nag englynion Elis. Dyn glew iawn yw Dafydd Sion Dafydd o Drefriw, ond ei fod yn brin o wybodaeth. Mi welaf nas gŵyr amcan daear pa beth yw toddaid, oblegid ei fod yn galw y gadwyn hanerog yn ei englynion yn doddaid.