IV. YN LLUNDAIN.
At William Morris, Meh. 7, 1755.
Y CAREDICAF gyfaill, y mae'n gryn gywilydd gennyf na ysgrifenaswn atoch yn gynt. Wala hai," meddwch chwithau, "dyna esgus pob dyn diog." Ond ymhell y bwyf os oes gennyf rith o ddim i'w ysgrifennu weithion; ac oni bai ofn bod yn ddau eiriog, mi ddywedwn ei bod hi'n rhy fuan i ysgrifennu eto.
Mi fum yn hir yn lluddedig, ar ol fy maith ymdaith o'r Gogledd; ac nid oes eto ddim. gwastadfod na threfn arnaf; ond yr wyf yn gobeithio na byddaf 'chwaith hir heb sefydlu mewn rhyw le, oblegyd fod y Cymrodorion i gyd yn gyffredinol, y ddau frawd yn enwedig, yn ymwrando ac yn ymofyn am le imi.
Wele! dyma fi wedi myned yn un o'r Cymrodorion yn y cyfarfod diweddaf; ond ni welaf eto fawr obaith cael eglwys Gymreig. Pobl wychion odidog, mi rof i chwi fy ngair, yw 'r Cymrodorion, dynion wyneb lawen, glân eu calonnau oll. Mae'n debyg y gyr y pen llywydd, Mynglwyd, i