Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf II.djvu/16

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chwi Lyfr y Gosodedigaethau, oni yrrodd eisus. Gwych o hardded yw arfau Llewelyn ap Gruffydd, llun Dewi Sant, a derwydd, &c., sydd o flaen y llyfr, wedi eu torri ar gopr yn gelfyddgar ddigon. Ni welwyd yng Nghymru erioed debyg i'r llyfr hwn.

Y mae pawb yma yn rhwydd iachus, fel yr ych yn clywed, mae 'n debyg, yn o fynych. Mae fy holl dylwyth i yma bob y pen, ond fy merch bach a fynnai aros yn Monwent Walton o fewn deu-rwd. neu dri at y fan y ganwyd hi. Mi wnaethum ryw ddarn o farwnad iddi hi, yr hon mae 'n debyg a welsoch cyn hyn.

Rhowch fy ngwasanaeth at Mr. Ellis yn garedig; a gadewch gael rhyw swm o newyddion o Fon gynta galloch. Chwi a welwch na fedraf ond rhy brin ymodi fy mhin na 'm bysedd i ysgrifenu, ac yn wir nid oes arnaf na Ílun na threfn iawn o eisieu sefydlu mewn rhyw wastadfod fy hun. Gyrrwch cyhyd a'ch bys o lythyr yma. gyntaf ag y galloch, er cariad ar Dduw, ac yno odid na fyddaf mewn gwell cyflwr i'ch ateb y tro. nesaf. Dyma Mr. John Owen yn rhoi llythyr at ei fam yn yr un ffrencyn. Ein gwasanaeth at bawb a'n caro 'n ein cefnau. Byddwch wych.

GORONWY DDU.