Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf II.djvu/19

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

V. YN NORTHOLT.

BYWYD YN NORTHOLT.

At Richard Morris, Hyd. 7. 1755.

EIN tad yr hwn wyt yn y Nafi,—Arhowch beth! nid oeddwn i'n meddwl am na phader na chredo, ond meddwl yr oeddwn eich clywed yn son y byddai dda gennych gael effrwm o gywion colomenod: a chan na feddwn nag oen na myn gafr, mi a'u gyrrais ichwi 'n anrheg, o'r gorau oedd ar fy llaw, a phoed teilwng gennych eu derbyn. Eu nifer yw chwech; ac yr wyf yn lled ofni y cyst ichwi dalu i borter am eu cludo ar ei ysbawd o Holborn hyd atoch: ond am y cerbydwr, mi dalaf i iddo. Os digwydd ichwi weled y Llew, chwi ellwch ddywedyd wrtho yn hydr ddigon, nad à na phregeth na phregowthen yn mlaen yma nes darfod Cywydd Llwydlo; fod y Lladin agos yn barod ar y mesur a elwir y Sapphic; a'm bod yn dra anewyllysgar i'r Gymraeg fod yn Gywydd Deuair Hirion, canys mai hwnnw yw 'r mesur atgasaf oll, a rhigwm diflas ydyw, fal y gwyddoch chwi a phawb agos. Beth meddech am Gywydd Llosgwrn, yr hwn sydd yn union yr un ddull a Sapphic? Eto bid ewyllys. y Llew ar y ddaear, megis y mae (weithiau) o dan y ddaear. Ond chwedl yn eich clust. Dyma guro wrth fy nrws i am hanner blwyddyn o dreth y goleuad, a chwarter o poor's a church rate. Rwy'n dyall rhaid talu neu wrido tua Dywllun nesaf; pa beth a wneir? Ni ddaeth mo'r dydd tâl eto hyd yma. A allech estyn of ugain swllt i ddeg ar hugain, mewn tipyn o barsel hyd yn Southall? ac onide, Duw a ŵyr, rhaid