Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf II.djvu/20

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gofyn ced gan ddyeithriaid. Mae gennyf ychydig tan yr ewin, gwir yw; ond pa fodd y prynir pytatws heb ddimeiau? Pan ddelo Mr. Tai yma, mi a'i hebryngaf hyd atoch gydag anerch. Gofynwch i Sión Owen pa bryd y daw i'm hymweled? Mi gefais hanes y llyfrau a gobeithio eu bod bellach hanner y ffordd i Lundain. Fy ngwasanaeth at bawb a'm carant, a chwi yn y blaenaf.

Oddi wrth eich bachgen a'ch bardd,

GORONWY DDU.

Ond gwrandewch eto. Mae'r delyn o Bentre Eirianell? Dyma Robert, er pan glybu son am dani, wedi troi'r llall heibio; ac yn dywedyd fod yn o fustlaidd ganddo ganu telyn bapur. Yr oedd yn dra hoff ganddo o'r blaen; ond weithion mae 'n how ganddo 'i gweled, ac ni chair mono ati o hyd pigfforch a rhaff rawn, mwy na Dafydd ap Gwilym gynt ar y delyn ledr. Da iawn gan y llanc delyn, ond nid telyn bapur. Telyn like that he saw in Wales (i.e. at Pentre Eirianell) a fyn y dyn. Ac os fi fydd byw fe gaiff ddysgu ei chanu hefyd; oblegid—

Telyn i bob dyn doniawl.—difaswedd
Ydoedd fiwsig nefawl."

"Wele hai!" meddwch, "ai o'r hwyl yr aeth. y dyn? I ba beth y mae yn rhoi negeseuon arnaf?" Byddwch amyneddgar, da chwi. Ni chlywsoch hanner y negeseuon eto. Os chwi fyth ystig, ni bydd arnoch byth brinder swyddau tra bwyfio fewn byd pigfforch atoch.