(At William Morris, Rhag. 29, 1755.)
YR wyf yn byw mewn lle, fal y gwelsoch, a elwir Northolt, yn offeiriad o dan y Dr. Nicolls, Meistr y Deml (Master of the Temple), yn Llundain. Mae yn rhoi i mi ddeg punt a deugain yn y flwyddyn. Lle digon esmwyth ydyw'r lle, am nad oes gennyf ond un bregeth bob Sul, na dim ond wyth neu naw o ddyddiau gwylion i'w cadw trwy'r flwyddyn. A chan nad yw'r plwyf onid bychan, nid yw pob ran o'i ddyledswydd ond bychan bach. Am hynny mwyaf fyth a gaf of amser i ysgrifenu i'm Cymdeithas a phrydyddu, &c., yr hyn hefyd a ddechreuais er ys ennyd, er na chânt hwy weled dim nes ei berffeithio. Yr wyf yn awr yn prysur astudio Gwyddeleg ac yn ei chymharu â'r Gymraeg, ei mam; ac, yn mhell y bwyf, ond yw agos yn rhyfedd gennyf na ddeallem ni bob Gwyddel a ddoe o'r Iwerddon; ond gormod o dro sydd yn eu tafodau hwy wrth arfer ag iaith yr Ellmyn gynt; nid Saesneg ond High German; canys dywedent hwy a fynnont yn nghylch eu gwreiddyn, a dygont eu tadau of Yspaen, Milesia, Gwlad Roeg, neu 'r Aipht, neu 'r man y mynnont, nid ynt ond cymysg o Ellmyn a Brython-yn eu hiaith o'r lleiaf. Mi dybiais. gan waith gynt fod yr Wyddelig yn famiaith, ond camgymeriad oedd hyny, fel y dangosaf, os byddaf byw.
Mae yma yn fy nghymydogaeth ddyn penigamp o arddwr o'n gwlad, un a adwaenech yn dda gynt, a'i enw Owen Williams; ond "Adda" yr ydwyf fi ambell dro yn ei alw. Mi a'i gwelais ddoe, ac yr oedd yn dymuno ei wasanaeth atoch. Gan fod gennyf ardd, o'r oreu o ran tir, mi fum yn