Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf II.djvu/22

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cethru arno yn dost am ychydig hadau a gwreiddiach i'w haddurno: ond nis medrodd gael imi yleni oddi ar ddyrnaid o snow—drops a chrocus, oblegid y mae'n achwyn yn dost nad ces na had na gwraidd i'w cael trwy deg na hagr gan waethed a fu'r hin i'w cynhafu. Ni wn i beth a geir y flwyddyn nesaf. Lle iachus digon yw'r lle hwn, ac yn dygymod yn burion â mi ac â'm holl deulu. Os byddwch faddeugar am a aeth heibio, ac mor fwyn a gyrru hyd bys o lythyr, llwybreiddiwch ef fel hyn:—"To me, at Northolt, near Southall, Middlesex, ner London."

CYWYDD Y GWAHAWDD.

ADDRESSED TO MR. WILLIAM PARRY, DEPUTY—
COMPTROLLER OF THE ROYAL MINT.

PARRI, fy nghyfaill puraf,
Dyn wyt a garodd Duw Naf;
A gŵr wyt, y mwynwr mau,
Gwir fwyn a garaf innau.
A thi 'n Llundain, wr cain cu,
Ond gwirion iawn dy garu?
Ond tost y didoliad hwn?
Gorau fai pe na'th garwn.
Dithau ni fynni deithiaw
O dref hyd yn Northol draw,
I gael cân—beth diddanach?
A rhodio gardd y bardd bach;
Ond dy swydd hyd y flwyddyn
Yw troi o gylch y Twr Gwyn,
A thorri, bathu arian,
Sylltau a dimeiau mân.