Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Diwedd sydd i flodeuyn,
Ac unwedd fydd diwedd dyn.
Gnawd i ardd, ped fai 'r harddaf,
Edwi 'n ol dihoeni haf.
Tyred rhag troad y rhod;
Henu mae'r blodau hynod.
Er passio'r ddau gynhauaf,
Mae 'r hin fal ardymyr haf!
A'r ardd yn o hardd ddi haint,
A'r hin yn trechu'r henaint,
A'i gwyrddail yn deg irdda
Eto; ond heneiddio wna.
Mae'n gwywo, 'min y gauaf,
Y rhos a holl falchder haf.
Y rhos, heneiddiodd y rhain,
A henu wnawn ni 'n hunain.
Ond cyn bedd dyma 'ngweddi,
"Amen," dywed gyda mi,
Dybid in' ddyddiau diboen
A dihaint henaint o hoen;
Mynd yn ol, cyn marwolaeth,
I Fon, ein cysefin faeth.
Diddan a fyddo'n dyddiau
Yn unol, ddiddidol ddau;
A'r dydd, Duw ro amser da,
Y derfydd ein cyd yrfa,
CRIST yn nef a'n cartrefo,
Wyn fyd a phoed hynny fo.