Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf II.djvu/25

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CYWYDD I DDIAFOL.

At Richard Morris, Mai 20, 1756.

UN peth, os rhaid cyfaddef, sydd i'm digaloni yn gethin, sef, na chlywais o Allt Fadawg oddi wrth Y Llew na'i nai. Rhyfedd na chlywid oddi wrth Ieuan Owain, Fwynwr, os yw 'n fyw. Am y Llew, yr wyf agos a chanu'n iach iddo; oblegyd fod lle i ofni ei fod wedi digio tros byth bythoedd, o ran na chefais gantho ond sen y llythyr diweddaf byth a welais oddi wrtho. Y mater sydd fal hyn, a mater garw yw hefyd. Digwydd a wnaeth i'r Llew ddal sylw arnaf yn ysmocio fy nghetyn yn nghyfarfod y Cymmrodorion, ac uthr oedd gantho weled y Bardd faliar mewn mwg, a'r niwl gwyn yn droellau o amgylch ei ben, like a glory in a picture"-dyna 'i air; "ond am Ffoulks, &c., nid oedd ryfedd gantho." Yr oedd yn taeru yr un amser fy mod wedi hanner grapio; ac yn wir mae 'n atgof gennyf yfed o honof ran o phialaid o bwins yn nhy y car H. Prys cyn dyfod yno. Ond gadewch i hynny fod, nid aml y bydd y gwendid hwnnw arnaf (goreu fyth po'r anamlaf), a diau yw, fod maddeuant i fwy troseddau na hynny, er ei gymmaint. Sen iachus er fy lles i oedd y sen; a diolchgar ydwyf am dani. Ond eto nid arwydd da ar neb fod yn anfaddeugar. Nis gwn i achos arall yn y byd iddo ddigio a bod mor dyn. Mae gennyf yma yn fy ymyl brophwydoliaeth a "sgrifenwyd cyn gweled o honof Lundain erioed, sy 'n dywedyd, "Mai os fi, pan ddeuwn. yna, a fethwn yn yr hyn lleiaf ddal y ddysgl yn wastad i'r Llew, na wnai ond fy nirmygu a'm cablu a'm coegi, ar air a gweithred byth, heb