Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf II.djvu/30

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gyr byth â phob gair o'i ben
Dripharth o'th ddieifl bendraphen.
Ac od oes yna gwd aur,
Mål annwn er melynaur.
O gwr ffwrn dal graff arnaw—
Trwyadl oedd troad ei law—
A'r lle dêl gochel ei gern,
Cau ystwffwl gist uffern;
Gyr i ffordd oddiwrth d' orddrws,
A chur o draw, a chau'r drws;
A chrwydryn o chair adref,
Afreidiawl un diawl ond ef.

A glywch chwithau 'r gŵr bonheddig? Yr ych yn cwyno i'r peswch ac yn dwrdio myned i ryw le i'r wlad i roi tro. Pa waeth ynteu fyddai ichwi yma na lle arall? Chwi gaech groeso calon i'r peth sydd yma, a diolch mawr am eich cymdeithas. Chwi gaech wely rhwydd esmwyth a dillad glân tymhoraidd, ond heb ddim curtains; a chwi ellech wneyd eich ystafell cyn dywylled a'r fagddu, os mynnech. Chwi gaech ymbell foliad o bastau colomenod ar droau, ac ymgomio gyda'r Doctor weithiau, os gwelwch yn dda. A chymerwch hyn yn lle gwahawdd, neu beidiwch.

Dyma'r llythyr y talasoch am dano wyth geiniog wedi ei gael. Mae'n dyfod oddiwrth Robert Owen, gŵr fy modryb Agnes Gronow, ac yn rhoi hanes o ryw heldrin rhwng Procatorion Llanfair a fy ewythr Robert Gronow, yn ngylch yr hen dŷ lle ganed fy nhad, a'm taid, a'm hendaid, a'm gorhendaid, etc.; a phed fawn yno, myfi a rown ben ar yr ymryson, oblegid fi y piau 'r ty, a'r gerddi, ac oll sy 'n perthyn iddo, er