Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf II.djvu/33

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

na waeth gennyf mo'r llawer pe cai'r cigfrain ef; ond gwell fyddai gennyf i rai o'm gwaed ei gael nag estron genedl, yn enwedig y Deinioels ffeilsion. Ond yw ddigon i'r Panningtons fod wedi llygru 'n cenedl trwy ymgymharu ac ymgyfathrachu â phob cainc agos o honi? a fynnent fwrw 'r unig gyw digymysg, diledryw, tros y nyth? Mi fynnaf weled hynny, ac a fynnaf wybod beth. a dalo fy hawl i'r lle, ped fai ond cut mochyn. Nid rhaid ond rhoi 'r peth yn llwyr, yn gywir, ac yn eglur, o flaen y Dr. Nicolls, ac fe geir ateb yn rhad o'r Deml gan wŷr a ŵyr bob cruglyn o'r gyfraith. Ni fu erioed osod nag ernes ar y lle yn amser tad na thaid neb sy 'n fyw heddyw, na thaledigaeth am dano, onid pedwar swllt a chwe cheiniog i Eglwys Llanfair bob blwyddyn; ac fe dål y lle deirpunt, o'r lleiaf, yn ol y prisiau sydd yn Môn. Pwy piau bob commons yn Môn? Nid yr Eglwys mae 'n debyg. Wele, hai! dyma lythyr oddi wrth y brawd Owen ap Owen o Groes Oswallt, yn dywedyd farw fy mam yng nghyfraith. Mi gaf y grasbib yn dyhuddo'r wraig Elin am ei mam. Bellach fe geir gweled a gywirodd fy hen chwegr ei geiriau. Hi fyddai'n addaw y caid ryw rombreth o bethau pan fyddai hi farw; ond yr wyf yn tybio nad oedd yn ei bryd y pryd hynny farw byth. Mae ystad y Brithdir yng Nglyn Ceiriog a addawodd i Robyn? Dyna ichwi gymmaint o newydd a marw gwrach, ond nid wyf fi yn disgwyl cymaint a grôt oddi wrthi.