Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf II.djvu/36

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Diau na ladd rhydain lew;
Adwyth i dylwyth dudew
Annog bygylog elyn;
Afraid i Frytaniaid hyn.

Ai arwylion, oer alaeth,
A fyn, giwed gyndyn gaeth?
Trychwaith a ddaw o'u trachwant;
Och o'r gwymp drachwerw a gânt.
I'w llynges pond gwell angor
Na llu i ormesu 'r môr?
Dan ddwylaw Prydain ddilorf
Pa les a wna 'u diles dorf?
Torf yn ffwyr gynt a wyrodd,
Torf anhy a ffy, a ffodd,
Ac a dâl â gwaed eilwaith.
Ffrydiawg, am eu geuawg waith.

Os Sior, oreubor o rym
Ryfelwr, ac eirf Wilym,
A âd ddim i'r do a ddaw
Deled bri Ffrainc i'ch dwylaw;
A deled—Duw a iolaf—
I chwi fyd hawdd a nawdd Naf:
Er Iesu, hir yr oesoch
Wellwell yn eich Castell Coch!
Ac yno cewch deg ennyd
I orphwys o bwys y byd,
I fwynhau llyfrau a llên,
Diwyd fyfyrdod Awen;
Ac oni feth y gân fau,
Syniwch a genais innau,
Fardd dwyiaith, dilediaeth lin,
Lledwael Gymraeg a Lladin.
Trwy bau syw tir Bowys hen
Hyfryd, tra rheto Hafren.