Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf II.djvu/42

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddechreu ydoedd ateb i'r Coch; a hynny yn nghyd a ddeugain neu ddeg a deugain; ac oddi allan yr oedd mawl i Ynys Fon, a chofrestr o'r beirdd hynotaf a fagwyd ynddi gynt, a dysgrifiad prydferth o'r wlad a'i hamryw doreithiau; megis anifeiliaid, pysg, adar, yd, caws, gwlan, mwyn, a chan peth cyffelyb. Mi yrrais y cywydd i'r Llew, ac yntef a yrrodd attaf ddoe fal hyn:—

"It is a pity your Cywydd Mon did not stand upon its own bottom without being tacked to such a worthless piece as that of Bardd Coch's. The man meant well, but it is the worst thing he ever. wrote. But whatever it is, this excellent description of yours of the island should not be read. the same day with it, for it is too like feeding a man with stinking meat the first dish, and the second with fresh ortolans."

Felly chwi welwch fal y mae; fe gyst gwahanu y cywydd yn ddwy ran; y gyntaf yn bwt byr of ateb i'r Coch o'r Foel; a'r ail yn glamp o Gywydd Mawl Mon,' a bid sicr ichwi y ddau y tro nesaf. Ie, meddwch chwithau, pa bryd a fydd hynny? Fy ateb yw: Na ewch i ymhel ac ymliw â mi, am fy niogi; canys os diog fi, mi wn pa le mae imi gymar, a moeswch yma eich llaw hyd at yr arddwrn. Ond chwi a'i cewch pan atebwch hwn, ac nid cynt.

CYWYDD ATEBI ANNERCH HUW AP HUW, Y BARDD O
LWYDIARTH—ESGOB, VM MON.
[1756.]

DARLLENAIS awdl dra llawn serch,
Wych enwog fardd o'ch annerch;
A didawl eich mawl im' oedd—
Didawl a gormod ydoedd.