Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf II.djvu/43

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tynnu'r Awen o'm genau,
A'i dwyn hwnt o dan ei hiau!
Ochaf mae 'n amlwg ichwi—
Ochaf, ond ni henwaf hi;
Hawdd ei gwamal ddyfalu,
Poen yw ei dwyn, y pwn du!
Trom iawn yw; ond, tra myn Naf,
Yn ddigwyn hon a ddygaf.


MOLAWD MON.

At William Morris, Awst 16, 1756.

Y CAREDIG GYDWLADWR,—Mi gefais yr eiddoch o Ebrill y trydydd ar hugain, yn nghyd a chywydd gorchestol y Bardd Coch, a diolch ichwi am danynt. Yr ych chwi, ac felly 'r Llew yma hefyd, yn taeru fod yr hen Goch druan wedi rhyw led hurtio; ond erbyn ystyried ol a blaen, glew y gwelwn i yr hen Gorphyn. Nid oes ar y cywydd gamp yn y byd; ond y mae ynddo lai o eiriau segur nag a fyddai yn arferol o fod yn ei gywyddau; ie, ac yn nghywyddau gwŷr dysgedig a sorrent am eu henwi yr un dydd a'r hen Goch. Ac os rhwydd iddynt hwy hepian, ni fyddai rhyfeddod yn y byd i'r Coch drymgysgu a chwyrnu hefyd. Gwrda yr hen geiliog, meddaf i, dywedwch chwi a fynnech. Mae yma ateb gorchestol i'r hen ddyn wedi ei wneyd er ys ennyd; ond mae 'r Llew i'm rhwystro i'w yrru yna, ac onide yr oedd yn fawr fy mwriad i yrru atoch y tro yma. Dyma fal y mae y peth yn bod. Fi a wnaethwn gywydd o ddeucant o linellau neu ychwaneg, a'i