Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf II.djvu/51

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

COLLI TYMER.

At Richard Morris, Medi 27, 1756.

AM eich llyfrau chwi a fenthycais chwi a'u cewch pan fynnoch. Ni bum erioed ar gyngyd na'u bwyta na'u hyfed, na'u gwerthu, na gwneuthur ffagl o honynt. Ac am y Dafis yna, mae iddo groeso i'r dodrefn sydd heb dalu am danynt pan fynno; nid oes arnynt nemor of geiniogwerth. A phan ddelo amser cyfaddas, mi ddiolchaf i'r wyneb lleuen gadach am ei gastiau llechwraidd. Yr oedd y llechgi brwnt yn ddiswydd ddigon ddyfod yma gyda'r cynrhonyn coesgam hwnnw o fachgen i hel chwedlau; ac yn cydgoethi a chablu arnaf gyda'r dafarnwraig biglas yma, fal y mae hi ei hun yn addef yn awr wedi cymodi o honom.Y BARDD GWYLLT.

PENDERFYNU YMADAEL.

[At yr Anrhydeddus a'r hybarch Gymdeithas o Gymrodorion, Goronwy Ddu, eu Cyfaill a'u Bardd gynt, a'u Gwasanaether a'u Car hyd angau, yn anfon annerch.]

Y PENDEFIGION URDDASOL,—Yn gymaint a'm bod eisus yn dra rhwymedig i'ch hybarch Gymdeithas, a'm bod yn myned yn ddiatreg (Duw ro fordwy dda), yn rhybell i ddysgwyl byth ond hynny weled un wyneb dyn o honoch, mi dybiais nad anghymwys imi, neu yn hytrach fod yn ddyledus arnaf, gymeryd cennad teg gennych oll cyn fy nghychwyn. Ac, fal y mynnai Dduw, dyma 'r adeg orau oll o'm blaen, sef, ar noswaith eich cyfarfod; pryd y mae rhan fawr o honoch wedi ymgynnull trwy undeb a brawdgarwch, yn ol eich Arfsgrif, i gydsynio ar wir les eich gwlad,