Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf II.djvu/52

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac i hwylio yn mlaen amryw eraill o ddibenion canmoladwy eich Cymdeithas. Gweddus a Christionogawl iawn eich gwaith; boddlawn gan Dduw a chysurus i amryw o'i haelodau anghenawg, a chlod fawr yng ngolwg holl ddynolryw; a sicr a fydd eich gwobrwy ddydd a ddaw, gan yr hwn a ddywed, "Gwyn ei fyd a dosturio wrth y tlawd a'r anghenus." Am danaf fy hun, nid allaf ymhonni o ddim rhan o'r fendith yma, er bod yn aelod o'ch urddasol Gymdeithas, gan na roes y Goruchaf im' mo 'r gallu; er y gallaf yn hyderus ddywedyd na bu arnaf erioed ddiffyg ewyllys; ac os Duw a'm llwydda, na bydd byth. Dyn wyf fi, fal y gwyr amryw o honoch, a welodd lawer tro ar fyd, er na welais nemor o dro da; ac mi allaf ddywedyd wrthych, fal y Padriarch Jacob wrth Pharoah gynt, Ychydig a blin fu dyddiau 'ch gwas hyd yn hyn"; ond yn awr yr wyf yn gobeithio fod nef yn dechreu gwenu arnaf; ac y bydd wiw gan yr Hollalluog, sy 'n porthi cywion y gigfran pan lefont arno, roi i minnau fodd i fagu fy mhlant yn ddiwall ddiangen. Er eu mwyn hwy yn unig y cymerais mewn llaw y fordaith hirfaith hon, heb ameu gennyf nad galwad rhagluniaeth ydyw. Hir a maith yn ddiau yw'r daith i Virginia; ond eto mae 'n gysur, pan elir yno, gael dau gant punt yn y flwyddyn at fagu'r plant. Mae hyn yn fwy nag a ddysgwyliais erioed yn Mhrydain na'r Iwerddon; a pha fodd yr atebwn i'm teulu pe gwrthodwn y fath gynnyg drwy lwfrdra a difräwch? Er eu mwyn hwy ynteu mi deflais y dis, gan roi fy einioes yn fy llaw a diystyrru pob perygl a allai ein goddiwes; a hynny, nid yn