Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf II.djvu/54

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

achos, ond pa un bynnag a wneloch ai ystyried fy nghyflwr ai peidio, myfi a weddiaf ar Dduw roddi ichwi lwyddiant yn y byd hwn a'r hwn a ddaw; yr hyn y pryd yma yw'r cwbl a eill

Eich ufudd Wasanaethwr,

Tachwedd yr ail, 1757.GRONWY DDU.

CYCHWYN.

Ar fwrdd y Trial yn Spithead,

Rhagfyr 12, 1757

YR ANWYL GYDWLADWR,—Dyma ni, trwy ragluniaeth y Goruchaf wedi dyfod hyd yma 'n iach lawen heb na "gwyw na gwayw", na selni môr, na dim anhap arall i'n goddiwes; er caffael o honom lawer iawn o dywydd oer dryghinog tra buom yn y Downs, ac o'r Downs yma. Gwych o gefnocced y mae fy ngwraig i a'i thri Chymro bach yn dal allan heb na chlefyd y môr na chyfog, ond rhyw dipyn o bendro y dydd y daethom o'r Nore i'r Downs, lle 'r oedd y lladronesau Seisnig yma, ie, a'r lladron, ac ambell un o ddynion y llong ar chwydu eu perfeddau allan. Och yn eu calonnau! Dynion bawaidd aruthr yw dynion y môr. Duw fo'n geidwad i ni! Mae pob un o naddynt wedi cymeryd iddo gyffoden o fysg y lladronesau, ac nid ydynt yn gwneyd gwaith ond cnuchio'n rhyferrig yn mhob congl o'r llong. Dyma bump neu chwech o naddynt wedi cael y clwyf. Ac nid oes yma feddyg yn y byd; ond y fi sydd a llyfr Dr. Shaw gennyf; ac ya ol hwnnw byddaf yn clytio rhywfaint arnynt â'r hen gyffiriau sydd yn y gist yma. Fe fydd arnaf weithiau ofn ei gael fy hur wrth fod yn eu