Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf II.djvu/55

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mysg. Mi fedyddiais un plentyn, a'i enw oedd. "Francis Trial," ac a'i cleddais ef wedi, a lleidra lladrones heblaw hynny. Heddyw y cleddais y lladrones. A ydych yn cofio fal y dywaid y penbwl yma o Gadpen y cai fy ngwraig i un o'r lladronesau i weini iddi tra bai ar y môr? Y mae yma yn y caban un o honynt, ond i weini i anlladrwydd y gŵr yma, nid i wasanaethu fy ngwraig i, y deuwyd a hi yma. Ni welwyd erioed fwystfil o ddyn gwaeth na'r pennaeth. Y mae yn gorfod arnom er ys pythefnos yfed dwfr drewllyd neu dagu; canys nid oes diferyn o ddiod fain yn y llong; ac edrych arno ynteu'n yfed ei winoedd a'i gwrw rhyngo ef a'i gyffoden, ac yn sipian ei weflau diawl i godi blys arnom, ac yn dywedyd, It is very good. Pa beth, meddwch chwi, a ddaw o honom cyn y pen y daith? Ond mae gennyf inau faril o borter heb erioed ei agor, a pheth rum. Yr ydwyf yn lled ofni iddo ryw dro neu gilydd fy nigio cyn belled, wrth daro rhai o'm plant neu ryw gast arall, fal y mae arno gant o gastiau drwg, a gwneuthur redeg fy nghleddyf tan ei asenau byrion; a diolch iddo roddi imi fenthyg dul o gleddyf cyn flaen llymed. Ond Duw a'm cato rhag drwg. Rhowch fy ngwasanaeth at Mr. John Owen, a dangoswch hwn iddo; ac at y Llew, Parry, Humphreys, &c. Yr ydym yn hwylio pan gyntaf y bo 'r gwynt yn deg gyda 'r rest o'r llynges, yr hon sy 'n cynnwys yn nghylch dau gant o longau.

Duw ro i chwi a ninnau iechyd a rhaith dda!
Mi ydwyf eich ufudd Wasanaethwr,

GRONWY DDU.