Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf II.djvu/56

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

VI. O'R GORLLEWIN.

BYWYD YN Y WLAD BELL.

At Richard Morris.

Brunswick, Gorffennaf 23, 1767.

YR ANWYL GYFAILL,—Ar ol cyd-alaru â chwi am farwolaeth eich dau frawd godidog, y nesaf peth a ddylwn ei wneuthur, yw mynegu ichwi pa fodd y digwyddws im' glywed y trist newyddion. Ar fyr eiriau fal hyn y bu. Chwi, fe weddai, a ysgrifenasoch at William Parry yn Middlesex yn y wlad yma, tros saith ugain milltir o'r lle'r wyfi yn preswylio; ac ynteu yn mhen hir a hwyr a 'sgrifennodd yma. Minnau a'i hatebais ynteu drachefn; ond byth gwedi ni chlywais na siw na miw oddi wrtho. Ofni yr wyf fod ryw chwiwgi wedi difrodi fy llythyr cyn ei roi i'r Parry. Nid oes yma ddim post yn myned trwy'r wlad fal yna; dim ond ymddiried i'r cyntaf a welir yn myned yn gyfagos i'r lle; ac weithiau fe fydd llythyr nowmis neu flwyddyn yn ymlwybrin deg milltir ar hugain o ffordd, ac yn aml ni chyrraeth byth mo 'i bennod. Hiliogaeth lladron o bob gwlad yw'r rhan fwyaf o drigolion y fangre hon, ac y mae ysfa ddiawledig ar eu dwylaw i fod yn ymyrraeth â phethau pobl eraill, ac i wybod pob ysmic a fo 'n passio rhwng Sais genedigol a'i gydwladwyr yn Lloegr. Mawr yw 'r chwant sydd arnynt gael gwybod helyntion gwŷr Brydain; a pha un a wnelont a rhoi gair da i'r wlad a'r bobl yn eu llythyrau at eu cydwladwyr ai peidio. Fe gyst imi fyned drugain milltir neu well, i roi hwn o'm llaw fy hun i ryw