lawn yw'r wlad yma; ond nawdd Duw a'i Saint rhag y trigolion!—oddigerth y sawl o honynt sydd Saeson, ac nid da mo honynt hwythau holl. Anerchwch fy nghyfaill Parry o'r Fint, a Pherson y Twr Gwyn, a Sion Owen, Fwynwr; ie, ac Andrew Jones, a phob wyneb dyn a'm hadwaeno.
Duw gyda chwi oll! Mi fyddaf yn disgwyl llythyr yn mhen chwe mis.
Mi wyf yr eiddoch, etc.,
GORONWY OWEN.
MARWNAD LEWYS MORYS YSWAIN,
GYNT O FON, YN DDIWEDDAR O ALLTFADOG,
YN NGHEREDIGION; PEN-BARDD, HANESYDD,
HYNAFIAETHYDD, A PHILOSOPHYDD YR OES
A AETH HEIBIO; GWIR-GARWR EI FRENIN
A LLES CYFFREDIN EI WLAD; A HOFFWR A
CHOLEDDWR EI IAITH A'I GENEDL.
YN YR AWDL HON Y MAE PEDWAR MESUR AR HUGAIN
CERDD DAFAWD, YN NGHYD A NODAU YR AWDUR AR
RAI PETHAU HYNOD.
Englynion Unodl Union.
OCH dristyd ddyfryd ddwyfron,—Och Geli,
Och galed newyddion,
Och eilwaith gorff a chalon,
Och roi 'n y bedd mawredd Mon.
Mawredd gwlad Wynedd, glod union—ceinwalch,
Cynnor presenolion;
A byw urddas y beirddion,
A'u blaenawr oedd Llew mawr Mon.