Clogyrnach.
Hawdd y gorthaw ddifraw ddwyfron;
Erchyll celu archoll calon;
O raen oer enaid,
Diau bydd dibaid
Uchenaid a chwynion.
Gwawdodyn Byr.
Cair och o'i hunaw, cur achwynion,
A chaeth iawn alaeth i'w anwylion;
Parawdd i ddinawdd weinion—o'u colled,
Drem arw eu gweled, drom oer galon.
Dau Doddaid.
Pa golled—gwared gwirion—o delmau
Ac o hir dreisiau gwŷr rhy drawsion![1]
O frwd ymddygwd ddigon—y diangodd,
Gwen nef a gafodd gan Naf gyfion.
Gwawdodyn Hir.
A fynno gyrraedd nef, wen goron,
Dwy ran ei helynt drain a hoelion,
Pigawg, dra llidiawg fawr drallodion,
Croesau, cryf—loesau, criau croywon,
Erlid a gofid i'w gyfion—yspryd,
Ym myd gwael bawlyd ac helbulon.
Byr a Thoddaid.
Er llid, er gofid, wir gyfion—ddeiliad,
Ef oedd ddilwgr galon;
Duw a folai, da 'i ofalon;
Siôr a garai is aur goron;
- ↑ Hyn, a rhan fawr o'r hyn a ganlyn, sy 'n penodi at ryw ddamweiniau a ddigwyddasant iddo, ennyd cyn ei farw; ac nid rhaid i'w gydnabyddiaeth wrth nodau, amgea na'u coffadwriaeth eu hunain i'w hegluro.