Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf II.djvu/66

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Eu cyngreiriau,
A'u cyweiriau,
A chadeiriau
Uwch awduron.

Cadwyn Fyr

Uwch awduron a chadeiriawg,
Bur iaith rywiawg bêr athrawon,
A chelfyddon uchel feiddiawg,
A'r beirdd enwawg, eirbêr ddynion.

Huppynt Hir yn nglŷn â Gorchest y Beirdd.

Ef oedd Ofydd
A dywenydd,
Hylwybr ieithydd,
Hil y Brython;
Gan wau gwynwaith,
Tlysau tloswaith,
Orau araith
Aur wron.

Hir a Thoddaid.

Goleuodd wedi ei gywleiddiadon
A gwir hyfforddiant geiriau hoff heirddion;
Athrawai 'n fuddiol a thrwy iawn foddion;
E gaed moes wiwdda gyd à masweddion;
Lle bu 'r diddysg hyll brydyddion,—brin ddau,
Fe rodd ugeiniau o hoywfeirdd gwynion.[1]


  1. Mae'r awdwr, gyd â phob dyledus barch i goffadwriaeth Mr. Lewys Morys, yn tra diolchgar gydnabod, mai iddo ef y mae 'n rhwymedig am yr ychydig wybodaeth ym marddoniaeth Gymraeg a ddaeth i'w ran; ac yn ffyddlon gredu—nid er gwaith nac er gogan i neb—y gall y rhan fwyaf o feirdd Cymru, ar a haeddant yr enw, gyfaddef yr un peth. Ac er nad yw les yn y byd i'r Awdwr mewn dieithr wlad dramor, lle nas deall yn oed ei blant ei hun air o'r iaith Gymraeg, eto mae 'n ddywenydd ganddo goffhau iaith ei fam a'i wlad gynhenid yn ei hir alltudedd; a gresyn ganddo na bai lle y gallai wneuthur mwy o les a pharch i'w iaith a'i wlad;—ond a fynno Duw a fydd.