Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf II.djvu/72

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dodaf fy ffon unionwymp
Ar flaen ei goflaen; hi gwymp;
Aed lle 'r el, ni ddychwelaf;
Ar ol y dderwen yr af.

ENGLYN O GYNGOR.[1]

COFIA y Duw byw tra bych—o galon;
A galw arno'n fynych;
Cofia y daw'r rhaw a'r rhych,
Oll yn wael lle ni welych.


PROEST CADWYNODL BOGALOG.

A math o watworgerdd ar yr hen englyn bogalog.

'I wiw wy a weua e
Ieuau o ia, ai e yw?
Ai o au weuau a we,
A'i au i wau ei we wyw?


ENGLYN
A SAIN GUDD YNDDO.

Pwy estyn bicyn i bwll—trybola
Tra bo i'w elw ddeuswllt?
Trasyth fydd perchen triswllt,
Boed sych a arbedo swllt.


  1. Dywed y Gwladgarwr (Tach., 1840) mai Goronwy Owen wnaeth hwn.