Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf II.djvu/9

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhagymadrodd.

OFER fu disgwyl Goronwy Owen yn Llundain. Ni chafodd le fel caplan i eglwys Gymraeg, na fawr oddiwrth y Cymrodorion. Ofer y ceisiodd am fywoliaeth Mallwyd, ofer yr hiraethodd am gyfle i gasglu Geiriadur Cymraeg llawnach nag un Dr. John Davies. Digiodd y tri brawd caredig, y Morysiaid, o dro i dro; Lewis Morris oherwydd iddo ymddwyn yn annoeth ymysg y Cymrodorion. William Morris oherwydd iddo gadw y Delyn Ledr yn rhy hir, a Richard Morris oherwydd yr oferedd diamcan a'i cadwai yn dlawd. Ni threuliodd yn Llundain ond Mai a Mehefin 1755.

Ym Mehefin 1755 cafodd guradiaeth Northolt, ym Middlesex, gerllaw Llundain. Yno y bu, yn dlawd, ond yn weddol hapus, am ddwy flynedd.

Yn 1757 cafodd gynnyg swydd athraw mewn ysgol yn perthyn i hen goleg Williamsburg yn Virginia. Temtiodd y cyflog ef i droi, yn llesg a siomedig, tua gwlad machlud haul. Buasai son am gyhoeddi ei waith; ond, pan adawodd ef a'i wraig a'i dri phlentyn Brydain am byth yn Rhag- fyr 1757, nid oedd dim o'i waith mewn argraph. Bu farw ei wraig Elin a'i fab ieuengaf ar y môr; glaniodd yn yr Amerig gyda Robert a Goronwy yn unig. Ail briododd â chwaer Llywydd y Coleg, ond ber iawn fu'r briodas. Bu 'n athraw Lladin a Groeg hyd 1760, pan yr aeth yn berson St. Andrews, Brunswick County. Erbyn 1767 yr oedd wedi colli pob un o'i deulu ond Robert, yr oedd yn briod y drydedd waith, yr oedd wedi clywed am gyhoeddi peth o'i waith ac am farw Lewis Morris. Bu'n berson St. Andrews hyd Gor. 22, 1769, a thybir iddo farw yn fuan wedyn.