Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf II.djvu/99

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CYWYDD AR WYL DDEWI, 1755.
I'w gyflwyno i'w Freninol Uchelder SIOR, Tywysawg Cymru.
gan yr urddasol Gymdeithas o Gymrodorion yn Llundain.

SLYW digamrwysg gwlad Cymru
A'i chynnydd, llywydd ei llu,
Por odiaeth holl dir Prydain,
Penteulu hen Gymru gain,
Llyw unig ein llawenydd;
Mwy cu in' ni bu ni bydd.
Eich annerch rhoddwch inni,
Ior glan, a chyngan â chwi.
Gwaraidd fych, Dwysawg eirioes,
Wrth ein gwâr ufuddgar foes.
Dychwelawdd, dan nawdd Duw Naf,
Dyddwaith in o'r dedwyddaf,
Diwrnod—poed hedd Duw arnynt—
Na fu gas i'n hynaif gynt;
Diwrnod y cad iawnrad yw
Ym maniar Dewi Mynyw;
Pan lew arweiniodd Dewi
Ddewr blaid o'n hynafiaid ni
I gyrch gnif; ac erch y gwnaeth
Ar ei alon wrolaeth.
Ni rodd, pan enillodd, nod
Ond cenin yn docynod.
Cenin i'w fyddin fuddug
Nodai i'w dwyn; a da 'u dug.
Hosanna, ddiflina floedd,
Didawl ei amnaid ydoedd,
Gan Ddewi, ac e 'n ddiarf,
Trech fu cri gweddi nag arf;
A Chymru o'i ddeutu ddaeth
I gael y fuddugoliaeth.