Ond wyt mewn lle nefol, dedwyddol dydi,
Mae'r ddwyfron a'r galon yn oerion gen i,
Dy dad a'th chwiorydd, byw beunydd bob un,
I'th aros di o'th orwedd, di lesgedd dy lun.
"Gwagedd o'r gwagedd, a'r agwedd yr wy,
Yw galw arna i godi, na'm holi ddim hwy,
Bodlonwch, na ddigiwch Dduw'r heddwch a'm rhoes,
Heb oede na meichie i chwithe am ych oes."
Os dyddie'n dedwyddwch ni 'n dristwch a droed,
Pa na waeth i ni feirw fel ceirw'n y coed,
Na byw yn alarus anafus nyni,
A cholli prydferthwch da degwch dydi?
"Pwy sy yn preswylio heb arno ryw bwn,
Yn pwyo tra botho fo byw'n y byd hwn?
A garo Duw nefol anfeidrol yn fawr,
O gystudd i gystudd fe a'i gistwng o i lawr."
Rwy'n ddigon digystudd, heb awydd yn byw,
Ond hireth drom drwbleth, cydymeth cas yw;
Pe base dy einioes di 'n hiroes o hyd,
Mi faswn cysurus a melus y myd.
"Ond eiddo Duw oeddwn pe baswn i byw,
Er bod yn etifedd iach rhyfedd o'ch rhyw;
A'm prynnodd ni'm collodd, ymwelodd â mi,
Ni roes ond y menthyg ryw ychydig i chwi."
Rhy fychan o'th gwmni, di-wegi dy wedd,
Ni gawsom dy garu di a'th fagu i'th fedd;
Ow tyred i'r golwg, ertolwg i ti,
A darllen yn llawen, y machgen, i mi.
Tudalen:Gwaith Huw Morus.pdf/22
Prawfddarllenwyd y dudalen hon