Tudalen:Gwaith Huw Morus.pdf/86

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llawer celfyddyd, wr ynfyd, erioed,
Yn ufudd fy nyfes, a dreies ar droed;
Pob campie, pob castie, rhag gostwng fy ngradd,
A phob math ar afrad, ond lladrad a lladd.

Pan oeddwn gyweuthog, er gwaethed fy nghwrs,
Ac arian yn gorwedd ym mherfedd fy mhwrs,
Pawb fydde'n fy mostio, yn treio pob tric,
Nid oedd neb ynfytach na doethach na Dic.

Yn nghwmni'r ifienctid ni welid neb well,
Cân fydde yn fy nhafod yn barod o bell;
Llawer cydymeth drwy fawr wenieth draw,
Mewn ufudd lawenydd, a lyne'n fy llaw.

Fo ddeude'r cybyddion mor oerion a'r ia,
Fy mod i'n gymydog godidog o'r da;
Cawn ganddyn fy nghoelio, a rhodio'n wr rhydd,
Tra bum yn gofalu am dalu'n y dydd.

Tra bu gen i geffyl mi gawn fenthyg march,
Tra galles i ganlyn, gan bob dyn cawn barch;
Cawn groeso a chymeriad a chariad a chŵyn,
"Nosdawch," a "Dydawch," a deudyd yn fwyn.

Anwadal fynediad wrth rediad y rhod,
Y golud a giliodd, newidiodd y nod;
Y parch a'r helaethrwydd a lithrodd yn is,
A Dic aeth yn hitin heb ronyn o bris.

Tra bum i'n wr cynnes, a'm lloches yn llawn,
Fy marnu'n synhwyrol ragorol a gawn,
Gan bawb ffwl oedd hitin pen aethum i 'n ol,
Di-ras a di-reswm, a phendrwm a ffol.