Tudalen:Gwaith Iolo Goch.djvu/12

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gobeithia y dychwel ei dywysog ac y dwg y wlad o'i rhwym dygn yn rhydd."

Cymerais bob gofal allwn i gael y testun goreu. Y mae y cywyddau argreffir wedi eu cymharu â mwy nag un llawysgrif. Gobeithiaf nad oes lawer o wallau. Ceisiais fod mor sicr ag y gallwn parthed dilysrwydd yr awduriaeth; y mae rhai ameus i mi yma, a nodaf hynny. Bu casgliad Charles Ashton o wasanaeth mawr i mi, a phe buasai y rhai oedd a'r amser a'r cyfle iddynt mor foddlon gweithio ag y bu ef, ni fuasai cymaint o gyfoethog lenyddiaeth Cymru heb eu cyhoeddi. Yr wyf dan ddyled drom, hefyd, i'r ddiweddar Anrhydeddus Augusta Herbert o Lanofer, ac i'w mab, y Cadfridog Syr Ifor Herbert, C.B., G.C.V.O., A.S., am lawer o garedigrwydd.

T MATTHEWS.




Yr ydys yn gwybod fod llawer o'r llinellau'n feius, fel y dengys y diffyg synwyr a'r diffyg cynghanedd yn aml. Ond gwell cyhoeddi gwaith bardd Owen Glyndŵr yn awr yn y dull goreu y medrwn. Caiff rhywun ddod ag argraffiad cywirach. Darllenodd Mr. Ifor Williams y prawflenni, a rhoddodd awgrymiadau gwerthfawr, ond nid yw ef yn gyfrifol am unrhyw wallau ddigwydd fod.

Daw esboniadau llawn ar eiriau a digwyddiadau yn niwedd yr ail gyfrol o waith beirdd Owen Glyndŵr.[1]

  1. Bu farw Tom Matthews ym mis Medi 1916, ychydig ar ôl gyhoeddi'r gyfrol hon. Ni chyhoeddwyd yr ail gyfrol. Mae ei nodiadau am yr ail gyfrol (gan gynnwys yr eirfa) ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol Cyf:NLW MS 8360C.]