A'r bedeir lofft o hoffter,
Yng nghyd gwplas lle cwsg y cler;
Aeth y pedair ddiscleirlofft,—
Nyth-lwyth teg iawn yw wyth lofft;
To teils ar bob ty talwg,
Simneiau lle megir mwg;
Naw neuadd cofladd cyflun,
A naw wardrob ar bob un;
Siopau glân, gynnwys gain,
Swp landeg fal Siep Lundain;
Croes eglwys gylchlwys galchliw,
Capelau a gwydrau gwiw;
Pob ty'n llawn, pob ty'n y llys,
Perllan, gwinllan, ger wenllys,
Gerllaw'r llys gorlle o'r llall,
Y pawr ceirw mewn parc arall;
Parc cwning, meistr por cenedl,
Erydr a meirch hydr mawr chwedl;
Dolydd glân gwyran â gwair,
Ydau mewn caeau cywair;
Melin deg ar ddifreg ddwr,
A'i glomendy gloew maen-dwr;
Pysgodlyn arddyglyn cau,
A fo raid i fwrw rhwydau;
Amlaf lle nid er ymliw,
Penhwyaid a gwyniaid gwiw;
A'i drí bwrdd a'i adar byw,
Peunod cryhyrod hoew-ryw;
I gaeth a wna pob gwaith gwiw,
Cyfreidiau cyfair ydyw;
Dwyn blaenffrwyth cwrw Amwythig,
Gwirodau bragodydd brig;
Pob llyn, bara gwyn a gwin,
A'i gog a'i dân i'w gegin;
Pebyll y beirdd, pawb lle bo,
Pe beunydd caiff pawb yno.
Tudalen:Gwaith Iolo Goch.djvu/121
Prawfddarllenwyd y dudalen hon