Prawfddarllenwyd y dudalen hon
GWAITH IOLO GOCH.
I. Y BRONRHUDDYN.
GYRRU Y BRONRHUDDYN YN LLATAI, AC O GLODFOREDD IDDO.
Y CELIOG brag a'r clôg brych,
Cywraint barnwn fraint bron-frych,
Iarll adar, eurlliw ydwyd,
Ar glyw yn wych, ar y llwyn wyd;
Cael miwsig, cloiau mesur,
Cloedig bwnc, gloewdeg pur;
Cnoc glasfryn, celiog glwysfrith—
Croeso i'r bryn a'r crys aur brith.
Solais byd, felys-lais big,
Swyddwr a gwir-gas eiddig;
Difyr salm, di-ofer son,
Dy gerdd mewn bedw gwyrddion;
Mynac edn mewn coedwig,
Main dy ben, mwyn yw dy big.
Pen cyngor porthor perthi,
Plu bais deg-ple buost ti?
Hir y gwybum rywiog bais,
Hiraeth ddal, hwyr i'th welais.