Tudalen:Gwaith Iolo Goch.djvu/20

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Digiais, ymserchais wrthyd,
Druan gŵr, am dario yn g'yd;
Rhag bod clwyfau briwiau brad,
Na swrn o eisiau arnad;
Na charchar trwy alar trais,
Na milain frad, na malais;
Na chroglath, magl gath mwygl-gau,
Na ffitffel mewn cornel cae.

Celiog teg mewn clôg wyt ti,
Cresl waith-grys Crist i'th groesi;
Gwr crych ar hyd gwarr y bryn,
Gwr ysmala grys melyn;"
Bid adail bywyd dedwydd,
Brych i gwfl, 'r hyd brigau gwydd;
Bid glwysdy a'r bedw glasdeg;
Bodlon wyt, i'r bedw-lwyn teg.
Gwrando, gyw, gwiriondeg iaith,
Gad imi fod yn gydymaith.

Pan gerais, mi ddeliais ddig,
Pur-wen winwydden eiddig;
Dig yw eiddig, da y gwyddwn,
Di elli help i dwyllo hwn.
Gwna fyned oddi-gennyf fi,
Gwawr ddydd ag arwydd iddi.
'Mogel air call, a mygrliw cas,
Malais eiddig, mal Suddas;
'Mogel, er Duw, maglwyr dig,
Galar oedd, gwyliwr eiddig;
'Mogel yr haf, magl a rhwyd,
A'i gath hen-llom gethin-llwyd.