Tudalen:Gwaith Iolo Goch.djvu/21

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

II. EURON,

PAN OEDD GLAF O SERCH.

HIR yw'r dydd, cethlydd caeth-loer,
Ys hwyr a naws haearn oer;
Hir yw'r wythnos, dros draserch,
Ys hwy'r mis im o sor merch;
Hir yw'r tymor hurt imi.
Tud mad, tost o fod mewn ty;
Ys hwyr yw i hystlys hi,
Y flwyddyn, oerfel iddi;
Am baham im, y bai hir—
Amser haf y'm sarheir?
Nid aeth fy llaw hiraethlawn,
Ar dant telyn rhymiant rhawn;
Ni thyfodd yr ail ddeilen,
Ni thrig dim o'r brig ar bren;
Ni chânt edn hafnant yn hawdd,
Yn luosawg ni leisiawdd,
Tref o'm gwlad, tra fum glaf,
Truan gwr, er ys tri-haf.
Nid byth cynt, llyth o haint llyn,
Y byddaf glaf a bawddyn;
Ni bu erioed bai ar wr
Trwsiad waeth ar wtreswr,
Er pan fu, hoewlu helynt,
Ar Awen Geridwen gynt,—
Gorddwy a phoen angerddawl,
Ar Daliesin, melin mawl;
Er na bwyf iawn rwyf un râs
Ac Efa mwy a gafas.
Minnau a wnaf im enaint
I fwrw hyn o ferw a haint
Mi a i'r pwll, lle mae'r Pair
Dadeni da di-anair;