Tudalen:Gwaith Iolo Goch.djvu/24

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ysglyfiais bacs diwacsa,
Is gwef dyn, bu ysgwfl da;
Darfu i'm dyllu, heb dwyll,
Barbed fy mun syber-bwyll;
Briwais glaer wyneb braisg lamp,
A bochgern merch ddibechgamp;
Gwesgais, digroenais i grudd,
Gwasgrwym tost ar ddyn gwisg-rudd;
Garw yw o beth ar gwrr boch,
I bod fel bargod burgoch;
Bondo fal brig perth bendew,
Byrion yw blaenion y blew;
Tin âb gul, teneu heb gig,
Twyn o for-frwyn ofer-frig;
Cardiau o beithynau bwth,
Neu rawn moelrhawn ymyl-rhwth;
Cloren lom, culor-hesg,
Colion haidd, celyn a hesg;
Draenoges ddiles ddialedd,
I ddigio'r wiw ddwyan wedd;
Gwnawd yn ol medd-dawd i mi
Gneifio 'marf, gnuf mieri;
Ni aill hi, nawell yw hyn,
Eillio hon â min ellyn;
Anrhegion mawr anrhygoll
A gaffwn, ped eilliwn oll;
Diofryd peth diafryw
A roddaf, o byddaf byw.
Cneifio 'marf, cyn i tharfu
Cneifiad oen, cynhaeaf du;
Dros i gadu'n draws geden
I dyfu gaeaf gnu gên,
I guddio'r croen a'r gwddw crych
A'r ddwyfron mor arddifrych—
O mynnaf, serchoccaf son,
Ymgaru, mi ag Euron.