Tudalen:Gwaith Iolo Goch.djvu/30

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwen rwydd, fal lliw gawn ar rew,
Gwyn-drwyn, cyfladd-grwn gwan-drew;
A deintws mwyn-tlws, a min
Digrif-wymp di-agr yfwin;
Tagell hir, teg oll i hymp.
Alarch-wedd gron-wiw lewyrch-wymp;
Bawd rif baderau eurfraich,
A bron atal-twf, a braich;
Llaw fain, un lliw a'r waneg,
Baslart hir, bys hoew-lary teg;
Ewin ballasarn arnaw,
A modrwy aur, y mae draw.
Ystlys-lun dduwies dlos-leddf,
Ystud-wen modd stad meddf.
Fferfain is fferrau'r feinir,
Ffurfeiddwyn droed cyd boed byr;
O chemir bys yn chwimwth,
O'i blaen, lygad crynfaen crwth,
Brwynen ewinwen wanwyrth,
Braidd fel tywys haidd, na syrth.
Arleis-lefn ddyn, eiry lwys-liw,
Wrlys gwyn ar eur lewys gwiw,
Gwyn i byd! Gwen yw i boch,
A gwisg fy nyn wefus-goch.
Penwisg welw, dyn di-ddelw doeth,
Penselgain yw'r pennes ael-goeth.
Pwy a allei, pei pen-saer,
Peintiaw â chalch pwynt fy chwaer?

Pentyrrais gerdd, pwynt di-rym
Puntur serch, pond trahaus ym
Dybiaw cael, bu hael baham,
Gydgwsg a'm dyn lygad-gam.