Gwas porth-fil, an-eiddil nen,
Gwasgar-bridd gwiw ysgeirbren;
Cnwd a gyrch mewn cnodig år,
Cnyw diwael yn cnoi daear.
Gwr a'i anfodd ar grynfaen,
Gwas a fling y gwys o'i flaen;
E fynn i gyllell a'i fwyd,
A'i fwrdd dan fon i forddwyd;
Hu Gadarn, meistr hoew-giwdawd,
Brenin a roes gwin er gwawd;
Ymherawdr tir a moroedd,
Cwnstabl aur Constinobl oedd;
Daliodd ef, gwedi diluw,
Aradr gwaisg iawn gadr gwiw;
Ni cheisiodd, naf iachus oed,
Heb fwrw'r aer, i fara erioed;
Eithr da oedd i athro,
O'i lafur fraisg awdur fro,
Er dangos, eryr ddawn-goeth,
I ddyn balch a difalch doeth,
Bod yn orau, nid gau gair.
Un grefft gan y Tad iawn-grair;
Arwydd mai hyn a oryw,
Aredig dysgedig yw.
Hyd y mae cred a bedydd,
A phawb yn cynnal y ffydd,
Llaw Dduw cun, goreu un gwr,
A llaw Fair, ar BOB LLAFURWR.
XIII. Y LLONG.
ANHAWDD im un hawddamawr
Ar y llong, oer yw i llawr.
Cyfryw ffrwd, ceufawr y ffrost,
Carchardy uwch cwrw chwerw-dost,
A'r wâl ddu-oer awel ddig,
A'r gloew seidr oer gloesedig.