Tudalen:Gwaith Iolo Goch.djvu/45

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

I'r ddu-gest oer ar ddigoel,
Iddi hen almari moel;
Iangwraig bol yng nghrog y bu
Angor-ddwr eang oer-ddu;
Hwch dinas digwmpas gain,
Had-lestr hwyl, braen-lestr bronrain;
Llydan y slêd, graean greg,
Llamair gwys,-llo môr-gaseg;
Siared roth domled amlwg,
Sarff for megis march Syr Ffwg;
Barm dew, burm a dywallt,
Bol maen sarn blowmones hallt;
Og yn gorlyfnu eigiawn,
Ewig y môr, ogam iawn;
Llawer gwaith oer-waith oror,
Pan fai llanw gwyllt mawr-wyllt môr,
Rhoes hawddamawr hoew-wawr hael,
Eryr celmyn i'r Cilmael,
Lle'r oedd Rhys, llys ail lafar,
Ab Robert ddigwert gâr;
Yno y cawn dawn di-enig,
I wirawd aur, fragawd frig;
Yno dyhuddglo haeddglod,—
Petwn y mynnwn fy mod.


XIV. EWYLLYS DA.

LLESIWR byd a'i iechyd, lles orucha—Dduw,
Lles i ddyn i fara,
Lles yw cyfoeth ni fetha,
Nid lles dim heb ewyllys da.



XV. POEN MEWN PEN.

PEIDIED, nag oeded awdur—gwych heddyw,
A chodi Duw'n eglur;
Peidiaw ni ddylch cylch cur,
Pan ddel yn y pen ddolur.