XX. SANT ANNA.
SANT y Cait a Sant Citws,
Sioasím hendad Siesws,
Pendefig boneddig hael,
O Nasreth yn yr Israel;
Yn dair rhan, ef ag Anna,
Rhinwedd ddoeth y rhannai dda,
Rhoi yn hyf rhan o'i gyfoeth,
I dŷ Dduw pan ydoedd ddoeth;
A'r ail ran ar ol y rhaid,
Ar unwaith a rôi i weiniaid;
Efallai yn hawdd felly,
O drain y da, drin i dy;
Nid oedd etifedd, na dyn
O'i gorph yn aberth, Duw-gwyn;
A'r gwr oedd goreu o'r iaith,
O'r deml a yrrwyd ymaith,
A ddug i ddynion a'i dda,
Wrth hyn oddiwrth Anna;
Cyrchawdd, ni ffaelawdd o'r ffydd,
I'r man uchaf o'r mynydd;
Crio a wnaeth, carai nawdd,
Ar y Creawdr y criawdd;
Gweddiodd am rodd o ras
Yn i gof, hynny a gafas;
Duw a ddanfones i'w dad,
Deg iawn hyd ato gennad,
"Dos di, dywysog dy iaith,
At Anna, eto, unwaith.
Hi a fydd blaenwydd dy blaid
I'th aros yn y porth euraid."
Adref y daeth i dref i dad,
Drych ef—mwy fu'r dyrchafiad.
Bu ddawnus bywyd Anna,
Beichioges y dduwies dda,—