Tudalen:Gwaith Iolo Goch.djvu/71

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A myned, cynhired cain,
Yr hafoedd hyd yn Rufain.
Gwyddwn lle mynnwn fy mod,—
Ys deddfol yw'r eisteddfod,
Ym maenol Dewi'm Mynyw,—
Mangre gain, myn y grog, yw.
Yng Nglyn Rhosyn, mae'n iesin,
Ac olewydd, a gwydd, a gwin,
Ac unic miwsic, a moes,
A gwrlef gwyr a gorloes;
A chytgerdd hoew loew lewych,
Rhwng organ achlân a chlych;
A'r thwrwblwm trwm tramawr,
Yn bwrw sens, i beri sawr;
Nef nefoedd yn gyhoedd gain—
Ys da dref ystad Rufain;
Paradwys Gymru lwys lefn,
Por dewis-drefn, pur dwys-drefn.
Petrus fu gan Sain Padrig
Am sorri Duw, amser dig.
Am erchi hyn, amharch oedd
Iddo, o'r lle a wnaddoedd,
Fyned ymaith o Fynyw
Cyn geni Dewi, da yw.

Sant ydoedd ef, o nef i ni,
Cynhwynol, cyn i eni;
Sant glân oedd pan y ganed.
Am hollti maen graen i gred.
Sant i dad, di-ymwad oedd,
Penadur, saint pan ydoedd.
Santes gydles lygadlon,
Yn ddi-nam ydoedd Non.
Merch Ynyr, fawr i chenedl,
Lleian wiw iwch ydyw'r chwedl.
Un bwyd aeth yn i ben—
Bara oer a beryren