Tudalen:Gwaith Iolo Goch.djvu/72

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Aeth ym mhen Non, wen wiw,
Er pan gad, penaig ydyw.

Holl saint y byd, gyd gerynt,
A ddoeth i'r senedd goeth gynt,
I wrandaw yn yr un-dydd
I bregeth, a pheth o'i ffydd.
Lle dysgodd llu dewis-goeth,
Y bu'n pregethu yn goeth—
Chwe-mil saith ugein-mil saint
Ag unfil-wi o'r genfaint!
Rhoed iddo fod, glod glendid,
Yn ben ar holl saint y byd.
Codes, nid ydoedd resyn,
Dan draed Dewi, fry-fryn.
Ef yn deg a fendigawdd—
Cantref o nef oedd i nawdd;
A'r enaint twym arennig,
Ni dderfydd, tragywydd trig.

Duw a rithiodd dygn-gawdd dig,
Ddeu-flaidd, o anian ddieflig,
A deuwr hen, o Dir Hud,—
Gwydneu Astrus a Gwydrud,―
Am wneuthur drwg antur gynt,
Rhyw bechod o rybychynt
A'u mam-paham y bai hi
Yn fleiddast? Oerfel iddi!
A Dewi goeth a'u dug hwynt,
O'u hir—boen ag o'u herw-bwynt.

Diwallodd Duw i allawr—
I fagl a wnaeth miragl mawr;
Yr adar gwyllt ar redeg,
Yrrai i'r tai, fy ior têg.
Ceirw osgl-gyrn, chwyrn a chwai,
Gweision uthr a'i gwasanaethai.