Modd ar y groes, naw-loes Ner,
Y gwahanwyd ef dduw-Gwener;
A'r goron hoelion hilyd
O ddraen am y tal yn ddrud;
A'r cethri dur, drwy gur draw,
A dolur traed a dwylaw;
Enaid a roes Duw ynnof
Pan gywirir cweirir cof;
Mihangel, Uriel eirian,
A'r cleddyddau tonnau tân;
Diau yw, gerllaw Duw lon,
Yn dethol y rhai doethion.
Yno y daw Mair air eirian,
Ar dalau i gliniau glân,
Yn dyrchafael gafael gwyn,
I dwylo yn adolwyn;
Aur i llef er i llafair,
I'w Mab, a'i Harglwydd a'i Mair,
Yn eur-chwaer, ag yn erchi
Nef a thrugaredd i ni.
Cawn ran gyda merch Anna,
Lliw dydd ym mysg i llu da;
Ag am hyn, gem henair,
Goreu i mi garu Mair.
XXVI. MARWNAD SYR RHYS WGAWN.
LLYMA oer-chwedl cenhedlawr,
Llas pen Cymry nen yn awr.
Gwahanwyd brawd briawd bron,
Ag enaid Llyfr y Ganon.
Syrthio angel, syrth anghlaer,
Syr Rhys aur, yng ngwregys aer,
Wgawn dryn a roe'r gwin draw
I'w genedl. Gwae o'i gwynaw!