Os rhaid mynegi, pwy rhi yr hawg—
Dafydd ap Bleddyn yw'r dyn doniawg,
Gwr perffaith, iawnwaith, enwawg—sancteidd-bryd,
Gwr o lwyth Uchtryd, nid bryd branawg.
Gwr digrif, gwr rhif, nwyf tylwythawg,
Gwr teuluaidd doeth, gwr cyfoethawg,
Gwr digabl roen, chwaen chwannawg—i gerdd-lais,
Gwr a gar priflais prelad baglawg.
Gwr gwiw gwyl ydyw, gwr goludawg,
Gwr gwar, hygar, car coronawg,
Gwr iesin, lladwin letenawg—cydostwng,
Gwr diflwng teilwng, talaidd, gwisgawg.
Gwr cywir a gwir gwaredawg,
Gwr cymen, llawen, lliw cenhedlawg,
Gwr coedd rhwydd, wersoedd addolawg—cydwedd,
Gwr cwbl i gampau, cenau Cynawg.
Gwr dwyfawl i hawl, hwyl anlloeddawg,
Gwr celfydd dedwydd a godidawg,
Gwr ato Mair, gair gorfodawg,
Gwr iawn hoew radlawn'n hirhoedlawg,
Gwr hyborth i borth, aberthawg—gwisga
Gwrda'n lle Asaff, iawn lluosawg.
XXVIII. MOLIANT SYR HYWEL Y FWYALL.
A WELAI'R neb a welaf,
Yn y nos pand iawn a wnaf?
Pan fum, mwyaf poen a fu,
Yn huno anian henu.