Tudalen:Gwaith Iolo Goch.djvu/86

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn gostwng pobl anystwyth
Lloegr, a Ffrainc, lle goreu ffrwyth.
Caf cyfedliw heddyw hyn,
Bob ail brwydr gan bobl Brydyn;
Difa'i llu, lle bu'r baich,
Dal brenin, dileu Brynaich;
Dolurio rhai, dal ereill,
Llusgo'r ieirll oll, llosgi'r lleill.
Curaist å blif ddylif ddelw,
Cerrig Caer Ferwig, cur ferw.
Rhoist ar gythlwng, rhwystr gwythlawn,
Ar For Udd, aerfa fawr iawn.
Gelyn fuost í Galais,
O gael y dref goleu drais;
Grasus dy hynt i'r Gresi,
Gras teg a rydd Grist i ti.
Llithiodd dy fyddin lin lem,
Frain byw ar frenin Böem;
Perigl fu i byrth Paris,
Trwst y gad, lle trewaist gis.
Ehedaíst, mor hy ydwyt,
Hyd y nef, ehedyn wyt;
Weithian ni'th ddynoethir,
Ni thyn dyn derfyn dy dir;
Cymod a'th Dduw, nid cam-oes,
Cymer yn dy gryfder groes.
Od ai i Roeg-mae darogan,
Darw glew, y ceffi dir glân;
A'r Iddew dref, arw ddi-drist,
A theimlo y grog a theml Grist;
A goresgyn ar grwysgaeth,
Gaerusalem, Fethlem faeth;
Tarw gwych, ceffi'r tir a'r gwyr,
Tor fanwaith tai'r Rhufeinwyr;
Cyrch hyd ym min Constinobl,
Cer bron Caer Bablon cur bobl,