Tudalen:Gwaith Iolo Goch.djvu/94

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Oedd eres i ddaearu,
Ethol o Dduw Ithel Ddu.
O ba raid iddo, brydydd,
A cherdd-wr a heliwr hydd?
I Ynys Byr mae hir aeth—
Ithel Ddu'n rhith hela a ddaeth,
A'i gynnydd nis goganwn,
A'i gyrn gydag ef, a'i gwn,
Ag a llong y gollyngwyd
O'i wlad i dir Lleudad Llwyd,
I hela cwning hil Cynon—
Y fil saint a'i fawl a'i son.
Nid aeth llwyth o adwyth lli,
Un llong i Ynys Enlli,
Hyn a dyngaf, llwyraf llw,
Hanner cystal a hwnnw,—
F'enaid aur, llathraid yw'r llwyth,
A'm dewis-dyn, Du ystwyth.
Gwr a fedrodd yn gowraint—
Gorwedd lle mae senedd saint.
A glybod Talbod, sel dda,
Ag Iolyn, Ddu'n galwn'n dda.
Di-ddrwg i ddiwladeiddrwydd,
Digrif, pe sirif i swydd.

Nid oes gythrel disgethrin,
A ddel yno, gwenfro gwin.
Da dyddyn, o doed iddi,
Nid ai nebo honai hi.
Yno y daeth ef yng nghrefydd,
Yno byth, band iawn y bydd.
Gorffwys i gorff hyawdl
Hyd frawd ddiodlawd, dda awdl;
Nid aeth, o uchafiaeth iach,
I grefydd wr ddigrifach.