Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/103

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ffydd, gobaith, cariad o balasau'r nef
Ddisgynnant gyda llif o seraff-gorau,
A chyd-amgylchant y ddaearen gref
Fel cadwyn aur-ddolenog o dymhoral,
A llaw Jehova yn eu harwain trwy
Ffurfafen amser cun ;
A daw y Nef ei hun
I drigo gyda dyn
Oesoedd mwy.

A'r temlau fel mynyddoedd gwawl ymgodant,
A'r nef addola ar eu tyrau mwy,
Ac yn eu cysgod broydd fil a folant,
A'r nefoedd wleddir a'u harogldarth hwy;
A'u cysgod pell croesawa'r nefoedd rhudd
Yn fwy na breiniol awr
Yr wybren danbaid wawr
Pan lanwo'r huan mawr
Bel y dydd.

"Barn! Barn!" Y floedd ysgydua'r ddaear
fawr
Yn dryblith o ystormydd a tharanau,
Ac wybren ar ol wybren dreigl i lawr
Fel cysgodfaoedd crin o'u beilchion fannau;
A'r Oesoedd ddont o'u dyfnder erchyll wawr
I daflu eu meirw ynghyd
Ar draeth y dwyfol fyd,
Ac i'w hogofau pyd
Ffoi i lawr.