Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/31

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr wyf yn deall beth yw'r nefoedd mwy,—
Y mae'n ymffurfio ynnof gyda'th ddelw,
Y ddau yn un, a Duwdod oll yn oll.

NID HWN, OND BARABAS

"NID hwn ond Barabas!" Parha y floedd;
Holl leisiau'r oesau unant i'w pharhau.
Distawa, anghredadyn. Taw! Paham
Y beiit arall am dy fai dy hun?
Y mae'r ddaeargryn engyrth ar ei thraed,
Gad iddi hi gyhuddo'r Iddew tlawd;
Ac i'th ystafell dos, a gwrando'n sobr
Yr unrhyw floedd yn darstain drwy dy enaid,
Ac ar dy ol, trwy wagle llawer blwydd,
"Nid Hwn, ond Barabas." "Nid Hwn, ond Chwant."

'Roedd Barabas ei hun yn well na Satan;
A llai eu pechod a'u dewisant ef
O flaen eu Ceidwad, na thydi sy'n dewis
Holl gethern Annwfn, a Satan, yn ei le.