Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/37

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Aeth yr awel olaf heibio,
Heibio fyth yr olaf donn,
Bythol deg yw'r tywydd yno,
Balmaidd holl aroglau hon.

Nid oes ddeigryn gennyf mwyach,
Yfodd bedd fy nagrau prudd;
Gwel, ni fedd y llygaid bellach
Wlith i ddyfrhau fy ngrudd;
Ofer gwlitho'r bedd mewn alaeth,
Ni thyf blodyn ar ei fron,
Sychodd holl ffynhonnau hiraeth
Yn y galon unig hon.

Frawd! Cymeraf lwybyr newydd;
Yn lle wylo, canu wnaf,
Canu am y bore dedwydd,
Bore y tragwyddol haf
Ar y fynwent drom gymylog
Wawria o wybrennau gwell,
Gan oleuo 'r beddau niwlog,
A dilennu'r wynfa bell.

Ebbwy, 'n iach! Yn iach nes torro
Gwawr yr anfachludol ddydd,
Cawn gyfarfod heb ymado,
O, cyfarfod melus fydd ;
Fry mwynha, mwynha 'th ogoniant,
Mel heb wermod, bri heb wawd;
Nes cael rhan o'r unrhyw fwyniant,
Ebbwy, 'n iach! Yn iach, fy mrawd!