Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/44

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ADGOF

DO, ymgyfarchwyd eilwaith dros y bedd;
A rhwydd, O rwydd adwaenwn wawr dy wedd.
Ar ol i'r byd
Amgau i gyd,
Bryd hyn ehed yr enaid tua i wlad,
A thua dwyfol breswylfeydd ei Dad,
Syrth caer y byd ysbrydol ar bob llaw,
A thragwyddoldeb dros y gorwel ddaw;
A bore ddydd o bethau anrhaethadwy.
Lif drwy yr enaid, fawredd anchwiliadwy.

Yn ol—y mae yr oll yn gwawrio eilwaith,
Ac adail bywyd noethir hyd ei seilwaith;
Yn ol a blaen tramwya'r enaid rhydd
Y byd anfeidrol mewn rhyw ddwyfol ddydd.
A muriau angau, ni chanfyddir hwy,
A'r bedd, fel pob daearol dwyn,
A lwyr anghofir mwy.

O tyred eto. Gwynfa'm henaid i
Yw cymdeithasu a dy ysbryd di;
A ser dwyfolaf yr holl fewnol fyd
Yn yr adgofion hyn sy'n dod
O ddyfnder bod o hyd.

Chwefror 19, 1856.