Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/56

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

COLL GWYNFA

GWELAF hi,
Arglwyddes Eden gynt, o dan y gawod,
A'i hwyneb tua'r anial. Araf ddringa
I ael y mynydd stormus draw, a thry
Ei golwg tuag Eden unwaith mwy,
Un-unwaith eto. Ah! Ysgydwa 'i phen;
Ac yma a thraw edrychant, ar bob llaw,-
Ond nid oes cartref, Eden nid oes mwy,
Oer yw y nos lle'r ant; mae'u gwisg yn wleb;
A'r storm yn chwythu 'n aruthr.

A gauodd hi, yr Eden falmaidd hon?
A raid i'w blodau wywo ar ei bron,
Gwywo yn eu cyntaf wychaf wawr,
A'r banciau rhos a lili oll edwi ar y llawr?

Ar ol ymaros hyd yn hir brydnawn,
Gwel, wyla'r gwinwydd ar y werdd-don lawn,
Am nad oes adsain edn i'w glywed mwy,
Na thyner law i gyffwrdd â'u nefol rawnwin hwy.


Uwchlaw yr ardd gauedig
Dadblyga'r storom hy
Rôl enfawr o gymylau,
Mae'r nefoedd yn ei du;
A chedyrn byrth y daran
Hwnt glywaf yn dadgloi,
A'r gwyntoedd mân eu hedyn
O'u hamgylch yn crynhoi.

A chwydd afonydd Eden
Yn wynion dros y glannau,
A myrdd a myrdd o'i milod dront
Yn wylltion ar ei bannau;